Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (228)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys 1 William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad i adfer hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yn sgil y digwyddiad yn Argoed a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl? |
Cwestiwn Brys 2 Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweidog ddatganiad ar yr eiddo a brynwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud lle i ‘lwybr du’ yr M4 cyn y gwnaed penderfyniad terfynol ar y llwybr? |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Diweddariad ar Raglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020 (30 munud) |
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Adroddiad y Farwnes Kay Andrews ynghylch Diwylliant a Thlodi - Ymateb gan Lywodraeth Cymru (30 munud) Dogfen Ategol |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Y Cyflenwad Tai (30 munud) |
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr Adolygiad o Asiantau Cefnffyrdd (30 munud)
Dogfen Atodol
Datganiad Ysgrifenedig - Trefniadau ar gyfer rheoli Traffyrdd a Chefnffyrdd Cymru |
7 Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud) NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae Pecyn Cymorth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gael o'r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/armedforces/packagesupport/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
Mae Maniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 ar gael yn:
http://www.britishlegion.org.uk/media/4044612/Extend e d-Manifesto.pdf (Saesneg yn unig)
Mae Cyfamodau Cymunedol y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/3978192/ComCov_whats_next.pdf (Saesneg yn unig)
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac
c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth. |
8 Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2014